Rhowch neges i Gyngor Sir Gâr: dywedwch na eto i’r cais i ymestyn pwll glo Glan Lash

Llynedd fe ddywedodd cynghorwyr Sir Gaerfyrddin na i ymestyn pwll glo Glan Lash yn Llandybie. Ond nawr mae'r un cwmni wedi gwneud cais arall i echdynnu glo o'r safle. Rhaid i’r cyngor wrthod y cais hwn, fel y gwnaeth gyda’r cais arall, a chadw Cymru yn rhydd rhag cloddio glo brig.  

Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur. Os caiff y cais ei gymeradwyo, gellid echdynnu a defynyddio 85,000 tunnell o lo, a fyddai’n rhyddhau lefelau annerbyniol o nwyon sy’n dinistrio’r hinsawdd i’r atmosffer.  

Byddai ymestyn y pwll glo hefyd yn bygwth yr ecoleg fregus a bywyd gwyllt gwerthfawr yr ardal o amgylch.  

Er mwyn gwarchod cymunedau a chynefinoedd, rhaid i ni gadw glo yn y ddaear yn lle dylai fod.   

Dweud eich dweud: defnyddiwch ein teclyn i gysylltu â’r adran gynllunio nawr. Mynnwch fod Cyngor Sir Gâr yn gwrthod y cais hwn cyn ei bod yn rhy hwyr. 

  • John E 06.01.2025 13:10
  • Nicola H 25.11.2024 10:56
  • david E 21.11.2024 12:14
  • Bethan M I 19.11.2024 15:06
  • Dewi B 18.11.2024 01:34
  • MIKE H 16.11.2024 09:20