Mynnwch wahardd glo yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cadarnhaol i ymrwymo i ddyfodol heb danwyddau ffosil yng Nghymru. Ond mae eu polisi glo yn caniatáucloddio am lo “mewn amgylchiadau cwbl eithriadol’ – man gwan y gall cwmnïau sy’n dinistrio’r hinsawdd fanteisio arno. 

Cwmnïau fel Bryn Bach Coal, sy’n gwneud cais i ymestyn glo brig yng Nglan Lash, Sir Gaerfyrddin. Ac ERI Ltd, sy’n gwneud cais i gloddio am filoedd o dunelli bob blwyddyn o byllau glo ym Medwas. Os caiff hyn ei gymeradwyo, gallai osod cynsail peryglus, gan dywys diwydiant glo arall trwy’r drws cefn. 

Mae uchel lysoedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi diystyru ceisiadau cynllunio ar gyfer safleoedd tanwydd ffosil. Ac eisoes, mae gan yr Alban waharddiad effeithiol ar gloddio am lo. 

Dim ond un ffordd sydd ar gael i roi stop ar ragor o gynigion. Mynnwch wahardd echdynnu glo yng Nghymru heddiw. 

  • Claire A 09.05.2025 14:31
  • Clive T 09.05.2025 14:15
  • Storm H 09.05.2025 10:51
  • Paul B 09.05.2025 10:18
  • Roderick F 09.05.2025 08:57
  • Karen M 09.05.2025 08:21