Rydym eisiau aer glân yng Nghymru: ychwanegwch fy enw

Dewch i ni wneud Cymru yn lle y gallwn gerdded ar hyd y stryd yn ddiogel heb anadlu aer peryglus.  

Mae aer llygredig yn ddrwg i’n hiechyd yn ogystal â’r blaned - mae’n cyfrannu at farwolaethau oddeutu 2,000 o bobl y flwyddyn yng Nghymru.  

A’r bobl sy’n cyfrannu lleiaf at achos llygredd aer – teuluoedd ar incwm isel, y rhai heb geir, pobl o liw, plant gydag ysgyfaint bregus – sy’n dioddef fwyaf.  

Mae Bil yr Amgylchedd sy’n cael ei ystyried gan Senedd Cymru eleni yn addo gwella ansawdd yr aer.  

Rydym yn galw ar y Senedd i basio bil sy’n ddigon cryf i bawb allu anadlu’n ddiogel. 

Dangoswch i’r Senedd eich bod eisiau aer glân yng Nghymru. 

Ychwanegwch eich enw heddiw.  

  • Sarah A 02.11.2023 21:08
  • Geraldine A 02.11.2023 14:25
  • Bonny M 08.09.2023 21:41
  • Jacob H 07.09.2023 13:39
  • Felix H 07.09.2023 13:39
  • Nigel H 07.09.2023 13:38