Dywedwch wrth eich cyngor: gwaredwch bensiynau o danwyddau ffosil

Mae argyfwng hinsawdd byd-eang ar y gweill, gyda thywydd eithafol a lefelau môr cynyddol yn bygwth bywydau biliynau o bobl. Yn y cyfamser, ledled y DU, mae ein hawdurdodau lleol yn parhau i fuddsoddi tua £10 biliwn yn y prif dramgwyddwyr trwy eu cronfeydd pensiwn, er bod 75% o gynghorau yn datgan ei bod yn argyfwng ar yr hinsawdd.

Mae datgan ei bod yn argyfwng ar yr hinsawdd wrth fuddsoddi mewn tanwydd ffosil yn rhethreg wag. Mae gan awdurdodau lleol y pŵer i sicrhau bod gan weithwyr lleol nid yn unig bensiwn ar gyfer eu hymddeoliad, ond hefyd ddyfodol sy'n werth ymddeol ynddo. Wrth inni wella o'r pandemig, gallwn ddewis cadw at hen systemau buddsoddi sy'n parhau i gyflymu'r argyfwng hinsawdd, neu gallwn fuddsoddi arian lleol mewn ffyrdd sydd o bwys i bobl leol a'u dyfodol.

Mae atal echdynnu ac ehangu tanwydd ffosil yn fater o oroesi i bob un ohonom. Rhaid i'n harweinwyr lleol weithredu nawr: mae'n bryd i'n hawdurdodau lleol waredu eu cronfeydd pensiwn a rhoi’r gorau i gefnogi’r cwmnïau sy'n gyrru'r argyfwng hinsawdd, gan fuddsoddi ein cyfoeth cyffredin yn hytrach mewn ffyrdd sy'n cynhyrchu enillion cymdeithasol ac ariannol.

Nid yw’n costio dim i wneud y newid hwn, ac mae chwe chyngor eisoes wedi ymrwymo i waredu’n llawn. Mae'n bryd gofyn pam nad yw eich cyngor chi wedi gwneud hynny.

Anfonwch e-bost at eich cynghorydd yn galw arnynt i gefnogi cronfeydd pensiwn cyngor di-ffosil.

No recent activity.