Cynhelir etholiadau’r Senedd ddydd Iau 7 Mai 2026. Mae hon yn foment enfawr i Gymru ac i’r bobl a’r byd natur sy’n bwysig i ni.
Mae data newydd yn dangos bod cymunedau ledled Cymru yn wynebu heriau difrifol: afonydd llygredig, aer anniogel ger ysgolion, cartrefi mewn perygl o lifogydd a phwysau cynyddol ar deuluoedd a bywyd gwyllt. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o bobl eisiau gweithredu’n gyflymach er mwyn amddiffyn ein hinsawdd a byd natur.
Dyna pam yr ydym wedi casglu data lleol sy’n dangos beth sy’n digwydd lle rydych chi’n byw - o ollyngiadau carthion a pherygl o lifogydd i lygredd aer a chartrefi ynni aneffeithlon.
Defnyddiwch ein hadnodd syml i weld data eich etholaeth a’i rannu gydag eraill. Wrth ledaenu’r gair, gallwch helpu i wneud achos dros Gymru decach, fwy gwyrdd.