Galw am weithredu ar dir halogedig yng Nghymru

Dylem gael yr hawl i wybod a yw tir halogedig yn peryglu ein hiechyd a’n byd natur. Ni ddylai cymunedau orfod byw yng nghanol llygredd gwenwynig na wnaethon nhw ei greu - na dioddef o’i herwydd.

Mae gorffennol diwydiannol Cymru wedi gadael gwaddol gwenwynig, a gallai fod ar drothwy ein haelwyd. Mae hen fwyngloddiau, safleoedd diwydiannol a safleoedd tirlenwi wedi gadael cemegau gwenwynig hirhoedlog ar eu hôl, gan gynnwys PCBau sy'n achosi canser a metelau trwm fel plwm ac arsenig. Gall y llygryddion hyn ollwng i’n pridd a’n dŵr, gan beryglu ein hiechyd a niweidio bywyd gwyllt. Mae’r cwmnïau sy’n gyfrifol am hyn wedi hen adael â’r elw blynyddoedd yn ôl - gan adael cymunedau i ddelio â’r goblygiadau.

Gall miloedd o safleoedd ledled Cymru fod yn rhai halogedig, ond eto nad oes gennym ddarlun clir o ble y mae’r safleoedd hyn, na’r peryglon y maent yn eu peri. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • Lansio ymchwiliad cyhoeddus annibynnol ar ehangder ac effaith tir halogedig, gan gynnwys adolygiad o ddeddfwriaeth, rheoliadau a chanllawiau statudol presennol. 
  • Llunio cofrestr gyhoeddus o safleoedd a all fod yn halogedig.
  • Sicrhau arianu o lywodraeth y DU a gweithio gyda’r awdurdodau cyhoeddus i gyd i sicrhau bod safleoedd peryglus yn cael eu glanhau.

Llofnodwch y ddeiseb a galwch am weithredu i lanhau tir halogedig yng Nghymru.

  • Ruth M 30.08.2026 23:00
  • Rui D 30.08.2026 22:58
  • Vincent M 30.08.2026 22:03
  • sarah s 30.08.2026 21:47
  • Nathan W 30.08.2026 19:56
  • Natalie E 30.08.2026 19:44