Mynnwch foratoriwm ar ganolfannau data yng Nghymru

O Ynys Môn i Gasnewydd, mae Cymru’n wynebu llu o gynigion ar gyfer adeiladu canolfannau data. Canolfannau data a fydd yn llyncu’r adnoddau hanfodol y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt.

Gall canolfannau data ddefnyddio llawer iawn o drydan, yn ogystal â llawer iawn o ddŵr ar gyfer oeri. Hefyd, gallant waethygu gwres eithafol a llygredd aer.

Mae rhai cynghorau yng Nghymru wedi cymeradwyo ceisiadau heb lwyr ystyried yr effaith ar bobl, yr hinsawdd ac ar fywyd gwyllt – er bod rhai o’r safleoedd arfaethedig hyn wedi’u lleoli ar garreg drws cymunedau sydd eisoes yn dioddef tywydd eithriadol o boeth ac ansawdd aer gwael.

Ar adeg pan ofynnir i bobl leihau allyriadau ac arbed dŵr, pam nad oes gan Gymru gynllun ar gyfer rheoli canolfannau data sy’n llyncu adnoddau?

Ni allwn adael i ofynion technoleg fawr gael blaenoriaeth ar draul pobl a’r amgylchedd. Llofnodwch y ddeiseb er mwyn galw am foratoriwm ar ganolfannau data newydd yng Nghymru hyd nes y caiff cynllun clir ei lunio.

  • Maddy D 27.10.2026 11:30