Mae Cymru'n frith o safleoedd tirlenwi diferllyd, tipio anghyfreithlon, tomenni gwastraff gwenwynllyd a thir wedi'i halogi. Mae cwmnïau barus yn cefnu ar safleoedd diwydiannol heb wneud y gwaith adfer a addawyd ganddynt.
Mae'r llygredd yn ein haer, ein pridd, ein moroedd a'n hafonydd yn bygwth byd natur a'n hiechyd ein hunain, ond mae cyfle nawr i ni wella pethau.
Bydd y bil newydd yn y Senedd yn creu corff gwarchod newydd i amddiffyn yr amgylchedd. Dyma'n cyfle i wrthdroi'r dirywiad mewn bywyd gwyllt a gwarchod cymunedau hefyd. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu'r nawr i sicrhau bod y Senedd yn creu corff gwarchod cadarn ac annibynnol sy'n gallu dwyn gweinidogion a chyrff cyhoeddus i gyfrif.
Mynnwch ddeddf cryf i warchod yr amgylchedd er budd pobl a natur yng Nghymru.