Mae bil hanfodol i amddiffyn a gwella amgylchedd Cymru ar fin cael ei drafod yn y Senedd. Ar ôl blynyddoedd o oedi, mae’r ddeddf hir ddisgwyliedig hon bron â chael ei phasio - a dyma’r cyfle olaf i’w gwneud yn ddigon cryf.
Mae’r llygredd yn ein haer, tir a’n dŵr yn niweidio bywyd gwyllt ac yn rhoi ein hiechyd mewn perygl. Mae’r bil hwn yn gam sylweddol ymlaen, ond mae’n rhaid ei gryfhau nawr er mwyn sicrhau atebolrwydd priodol, sicrhau cyllid a rhoi llais gwirioneddol i’r cyhoedd.
Gydag etholiad ar y gorwel, allwn ni ddim fforddio methu’r foment hon. Os na sicrhewn fod yr amddiffyniadau mewn deddfwriaeth nawr, efallai na chawn gyfle arall am flynyddoedd.
Dywedwch wrth eich Aelodau o’r Senedd i weithredu nawr. Gofynnwch iddynt gefnogi diwygiadau hanfodol a phleidleisio dros Fil yr Amgylchedd sydd yn wirioneddol amddiffyn byd natur, ein cymunedau a’n dyfodol.