Dywedwch wrth eich ymgeiswyr: rydyn ni eisiau Cymru lanach, wyrddach a thecach

Mae etholiad y Senedd ar ddydd Iau 7 Mai 2026 yn drobwynt i Gymru.

Mae ein cymunedau’n wynebu heriau brys: afonydd llygredig, aer anniogel, tlodi tanwydd a hinsawdd mewn argyfwng. Bydd yr etholiad yma yn penderfynu pwy sy’n ein cynrychioli ni yn y senedd nesaf – ac mae cyfnod byr o amser gyda ni i ddweud wrth ymgeiswyr beth sy’n wirioneddol bwysig i bobl Cymru.

Mae angen arweinwyr beiddgar arnom ni a fydd yn cynnig bywyd a dyfodol gwell i bobl ac i natur. A fydd yn amddiffyn bywyd gwyllt, yn adfer ein hafonydd ac atal llygredd a gwastraff. A fydd yn darparu ynni glân a chartrefi cynnes, yn eiriol dros hawliau pobl a helpu cymunedau i addasu i’r heriau sy’n ein hwynebu.

Mae’r etholiad hwn yn bwysig, felly sicrhewch fod eich llais yn cael ei glywed. E-bostiwch eich ymgeiswyr heddiw a helpwch i sicrhau Cymru lanach, wyrddach a thecach i bawb.

  • Jeremy P 20.04.2026 11:58
  • Jonathan C 20.04.2026 09:45
  • Jean C L 20.04.2026 09:19
  • Corinne J 19.04.2026 21:36
  • Juliet B 19.04.2026 18:37
  • Carole J 19.04.2026 18:01